Lleoliad:
Cynhadledd Fideo Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2021
Amser:
09.00 -
09.21
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Dai Lloyd AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Glerc |
1 Introductions, apologies and substitutions
Croesawodd y Llywydd Dai Lloyd, oedd yn eilyddio ar ran Sian Gwenllian
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at un newid i Fusnes yr Wythnos Hon – bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud y datganiad ar Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion Terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn lle'r Gweinidog.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.35pm.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.10pm.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 26 Ionawr 2021
·
Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Lansio Cynllun
Gweithredu'r Cwricwlwm Y wybodaeth ddiweddaraf am Gymwysterau
ar gyfer 2021 (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Cyhoeddi'r polisi cenedlaethol ar drosglwyddo a defnyddio'r Gymraeg mewn teuluoedd (30 munud) - gohiriwyd o 15 Rhagfyr 2020
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021
o Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud)
o Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 i drin Bil a gaiff ei alw’n Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) fel Bil Brys y Llywodraeth
o Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii)) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a gaiff ei alw’n Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws)
· Dadl: Adolygiad Blynyddol y Pwyllgor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2019-20 (30 munud) – gohiriwyd o 8 Rhagfyr 2020
Dydd Mawrth 2 Chwefror 2021
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad Adolygiad Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cynnydd o ran Trethi Datganoledig (30 munud)
· Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2021 (15 munud)
·
Dadl: Cyfnod 4 y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) (Diwygio)
(15 munud) -
gohiriwyd
Byddai nodyn yn cael ei anfon at yr Aelodau yn amlinellu'r weithdrefn a'r amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil Brys. Byddai copi cynnar yn cael ei ddosbarthu i'r Rheolwyr Busnes.
Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at amserlennu Cyfnod 3 y Bil Rhentu Cartrefi ddydd Mercher 10 Chwefror, yr un diwrnod â Chyfnod 3 disgwyliedig y Bil Brys.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu'r eitemau busnes canlynol, a chytunodd i adolygu'r busnes ar gyfer 10 Chwefror ar ôl i'r amserlen ar gyfer y Bil Brys gael ei chadarnhau.
Dydd Mercher 10 Chwefror 2021 -
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (30 munud)
3.4 Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 27 Ionawr:
Dai Lloyd
Neil Hamilton
Huw Irranca-Davies
Adam Price
Andrew RT Davies
Nick Ramsay
NNDM7463
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod y Gymdeithas Strôc wedi cyhoeddi ymchwil i brofiadau goroeswyr strôc yn ystod pandemig COVID-19, a ganfu fod goroeswyr strôc a gofalwyr yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.
2. Yn nodi bod derbyniadau mewn unedau strôc acíwt yng Nghymru wedi gostwng 12 y cant rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020 o gymharu â 2019.
3. Yn credu, er gwaethaf pandemig COVID-19, y dylai goroeswyr strôc allu parhau i gael gafael ar y gofal acíwt, y gwasanaethau adsefydlu, y driniaeth iechyd meddwl a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i adfer cystal â phosibl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod byrddau iechyd lleol yng Nghymru yn parhau â'u gwaith i wella gofal strôc yng Nghymru ac nad ydynt yn caniatáu i COVID-19 ohirio newidiadau strwythurol y mae mawr eu hangen.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer gwasanaethau strôc pan ddaw'r cynllun cyflawni presennol ar gyfer strôc i ben er mwyn sicrhau bod gofal i'r rhai y mae strôc yn effeithio arnynt yn cael ei gryfhau ledled Cymru yn y dyfodol.
Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc 2017-2020
Wedi’i gefnogi gan:
Llyr Gruffydd
Mark Isherwood
Neil McEvoy
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2021
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 25 Ionawr fel terfyn amser adrodd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) 2021
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dydd Llun 25 Ionawr fel terfyn amser adrodd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
5 Pwyllgorau
5.1 Amserlen y Senedd
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar slotiau cyfarfod ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn yr wythnosau gwarchodedig.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Llythyr gan y Bwrdd Taliadau
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i anfon ateb interim, yn hysbysu'r Bwrdd Taliadau bod y Pwyllgor wrthi'n adolygu'r Rheolau Sefydlog ar grwpiau.